Mae gennym ni adnoddau sy'n seiliedig ar y cwricwlwm ar gyfer Camau Dilyniant 1, 2 a 3. Mae ein pecynnau gwersi yn barod i fynd gyda chyflwyniadau, cynlluniau gwersi a thaflenni gwaith, yn ogystal â chynulliadau ysgol gyfan sy'n addas ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd.
Cam Dilyniant 1: Adnoddau dysgu ar gyfer 5+ mlwydd oed
Iechyd a Lles
Cam Dilyniant 2: Adnoddau dysgu ar gyfer 8+ mlwydd oed
Dyniaethau (Daearyddiaeth)
Iechyd a Lles
Cam Dilyniant 3: Adnoddau dysgu ar gyfer 11+ mlwydd oed
Dyniaethau (Daearyddiaeth)
Iechyd a Lles
Gwasanaethau
Ysgol gynradd
Nod: Dod yn ymwybodol o'r prif gyflyrau ysgyfaint sy'n effeithio ar bobl yn y DU ac i ddysgu sut y gallwn ni gefnogi iechyd ysgyfaint da.
Ysgol uwchradd
Nod: Gallu disgrifio'r prif fathau o lygredd aer, y cyflyrau maen nhw'n eu hachosi a pham ei bod yn bwysig monitro ansawdd aer - yn enwedig mewn ysgolion ac o amgylch ysgolion.
Beth nesaf?
Mae'r adnoddau hyn wedi'u datblygu i gefnogi dysgu eich myfyrwyr - gyda'r wybodaeth hon gallant benderfynu ar newidiadau i'w gwneud yn eu cymunedau i wella ansawdd aer, a theimlo'n hyderus wrth wneud hynny.
Beth am gwrdd fel eco-glwb i benderfynu beth i'w wneud nesaf - allwch chi rannu'r wybodaeth hon ymhellach i rieni/gofalwyr a llywodraethwyr? Neu osod posteri gwrth-segura? Ymgyrchu dros fwy o fyfyrwyr yn defnyddio teithio llesol i'r ysgol ac oddi yno? Gweithredu Stryd Ysgol?
Os hoffech chi gefnogaeth gyda hyn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, rhowch wybod i ni ar schools@asthmaandlung.org.uk.