Newid i fewnanadlydd carbon is

Dysgwch pa fath o fewnanadlwyr carbon is sydd ar gael a sut i'w defnyddio

Mae Asthma + Lung UK yn gweithio ar y cyd â GIG Cymru, GIG Lloegr, GIG yr Alban a’r Adran Iechyd (Gogledd Iwerddon) i’ch cefnogi i wneud newidiadau fel y gallwch fyw’n well gyda'ch cyflwr ar yr ysgyfaint a helpu’r amgylchedd ar yr un pryd.

Mae'r prosiect hwn wedi'i gefnogi trwy bartneriaeth a ariennir gyda GIG Lloegr.

Mae’r dudalen we hon wedi’i chyfieithu i’r Gymraeg, ond mae rhai o’r hypergysylltiadau yn mynd â chi i dudalennau gwe Saesneg.

Beth yw mewnanadlydd carbon is?

Mae gan fewnanadlwyr powdr sych (DPIs) a mewnanadlwyr niwl mân (SMIs) ôl troed carbon is na mewnanadlwyr dos mesuredig gwasgeddedig (pMDIs). Mae hyn oherwydd nad ydynt yn cynnwys gyrwyr sy'n cynhyrchu nwyon tŷ gwydr pwerus.

Mae mathau gwahanol o DPIs ac SMIs.

Ymysg yr enghreifftiau mwyaf cyffredin o DPIs ac SMIs mae Accuhaler, Aerolizer, Easyhaler, Ellipta, Forspiro, NEXThaler, Novolizer, Respimat, Spiromax, Turbohaler a Twisthaler.

Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio'r rhan fwyaf o'r mewnanadlwyr carbon is hyn trwy wylio ein fideos byr ar dechnegau mewnanadlydd (Saesneg yn unig).

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am effaith amgylcheddol mewnanadlwyr yma.  
 

A yw mewnanadlwyr carbon is yn ddiogel ac yn hawdd eu defnyddio?

Mae newid i fewnanadlydd carbon is yn gweithio'n dda i'r rhan fwyaf o bobl a gall wella rheolaeth cyflwr. Mewn gwledydd Ewropeaidd eraill, mae'r rhan fwyaf o bobl y mae angen mewnanadlwyr arnynt yn defnyddio mewnanadlwyr carbon is. Yn Sweden, er enghraifft, mae 13% o werthiannau mewnanadlwyr ar gyfer pMDIs, o gymharu â 70% yn y DU.

Mae llawer o oedolion yn gweld mewnanadlwyr powdr sych (DPIs) yn haws i’w defnyddio na mewnanadlwyr dos mesuredig gwasgeddedig (pMDIs), oherwydd mae’n haws cael y dechneg yn gywir. Mae mewnanadlwyr powdr sych yn gweithio wrth i chi eu hanadlu. Mae hyn yn golygu bod angen i chi allu anadlu'n gryf i fewnanadlu'r powdr.

Gall rhai pobl hŷn, rhai plant (yn enwedig plant o dan 12 oed) neu bobl â chyflyrau ar yr ysgyfaint mwy difrifol ei chael hi’n anodd gwneud hyn, yn enwedig pan fydd eu symptomau'n wael.

Mantais arall mewnanadlwyr powdr sych yw nad oes angen i chi ddefnyddio gwahanydd (Saesneg yn unig), sy'n gwneud y mewnanadlwyr hyn yn haws i'w cario o gwmpas.

Nid yw newid i fewnanadlydd carbon is yn gysylltiedig â symptomau'n gwaethygu neu risg uwch o byliau o asthma (Saesneg yn unig) neu fflamychiad (flare-up) o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) (Saesneg yn unig).

Dylai'r penderfyniad i newid mewnanadlydd gael ei wneud bob amser gyda'ch meddyg teulu, nyrs anadlol neu fferyllydd. Dylai ddangos i chi sut i ddefnyddio'ch mewnanadlydd newydd a dylai'r ddau ohonoch fod yn hyderus y gallwch ei ddefnyddio'n dda.

Mae cael eich techneg mewnanadlydd yn gywir yn gyflym ac yn hawdd. Os hoffech chi ddysgu'r dechneg gywir ar gyfer eich mewnanadlydd, gwyliwch ein fideos techneg mewnanadlydd byr (Saesneg yn unig).

Os gofynnir i chi geisio defnyddio mewnanadlydd carbon is newydd, mae’n werth rhoi cynnig arni.  Bydd y dechneg mewnanadlydd yn newid, ond bydd eich meddyginiaeth yn parhau i weithio yn yr un ffordd. Ond os nad yw’n addas ar eich cyfer, siaradwch â’ch meddyg teulu, nyrs anadlol neu fferyllydd am roi cynnig ar fewnanadlydd arall, neu newid yn ôl i’r un roeddech chi'n ei ddefnyddio o’r blaen. 

Os bydd eich symptomau'n gwaethygu

Os bydd eich symptomau'n gwaethygu, os byddwch yn cael pwl o asthma, neu os byddwch yn cael fflamychiad o'ch symptomau, efallai y bydd eich meddyg teulu, nyrs anadlol neu fferyllydd yn argymell eich bod yn dal i ddefnyddio mewnanadlydd lliniaru pMDI gyda gwahanydd. Dylid ychwanegu hwn at eich cynllun gweithredu asthma neu eich cynllun hunanreoli.  

Cadw golwg ar eich dosau

Mae llawer o bobl yn dweud wrthym fod peidio â chael rhifydd dos ar eu mewnanadlydd yn boen, gan y gall olygu y byddwch yn defnyddio mewnanadlydd nad yw bellach yn cynnwys unrhyw feddyginiaeth. Peth cadarnhaol arall am fewnanadlwyr carbon is yw bod y rhan fwyaf yn dod â rhifydd dos.

Mae hyn hefyd yn ei gwneud hi'n haws cynllunio ymlaen llaw, oherwydd gallwch chi bob amser ddweud faint o feddyginiaeth sydd gennych chi ar ôl.

Mae gan y rhan fwyaf o DPIs ac SMIs rifydd dos. Mae SMIs yn troi'n goch pan fyddant bron yn wag ac yn cloi eu hunain ar ôl i'r holl feddyginiaeth gael ei defnyddio.

Nid oes gan y rhan fwyaf o pMDIs rifydd dos, felly gall fod yn anodd gwybod pan fydd eich meddyginiaeth wedi dod i ben. Mae cadw golwg ar sawl pwff rydych chi wedi’u cymryd o’ch mewnanadlydd pMDI yn golygu na fyddwch chi’n defnyddio mewnanadlydd gwag yn y pen draw.

Gallwch ddarllen mwy am gadw golwg ar eich dosau mewnanadlydd pMDI ar ein tudalennau pryderon cyffredin am feddyginiaethau (Saesneg yn unig).

Ydych chi am ddod o hyd i ffyrdd cyflym a syml eraill o wella iechyd eich ysgyfaint a helpu'r amgylchedd ar yr un pryd? Edrychwch ar ein tudalen dewis mewnanadlydd

Cael cefnogaeth

Ffoniwch neu anfonwch neges WhatsApp at ein Llinell Gymorth i gael cymorth gyda'ch cyflwr. Mynnwch gyngor ar eich meddyginiaethau, symptomau neu deithio gyda chyflwr ar yr ysgyfaint, neu ffoniwch ni i ddweud helo.

Did you find this information useful?

We use your comments to improve our information. We cannot reply to comments left on this form. If you have health concerns or need clinical advice, call our helpline on 0300 222 5800 between 9am and 5pm on a weekday or email them.

Page last reviewed:
Next review due: